ENGLISH
Terms
When placing your order you accept all of our terms and
conditions as stated below.
Stock Items
The stock that is available online is also available in our
shop. In the rare event of purchasing an item online, whilst being bought
physically from our craft shop you will be notified and fully refunded.
If the item/s you have ordered becomes out of stock or if we
identify a discrepancy with the price or item description, we will not be able
to process the order. You will be notified and then refunded if another option,
such as choosing the same item with a variance, cannot be arranged.
All stock available will be handled carefully and packaged
to ensure there are no breakages unless otherwise specified on the online shop.
Any breakages broken in transit will be covered by the insurance.
We will try to ensure that all product descriptions are
correct including any variances.
Some items are unique and may not be ordered more than once
or again in the future. Please let us know if you have any enquiries regarding
an item or items you have seen previously.
Ordering, Returns and
Refunds
When an order has been placed we will notify you of the
receipt of your order and to check all details are correct. We will let you
know by email when your order is ready to be posted, this will be within 7 days
of your order unless otherwise specified.
To cancel an order, whether received or not, please contact hello@llantarnamgrange.com or call 01633 483321. If
the order hasn’t been sent yet we can organise a refund straight away. If the
order has meanwhile been sent then please wait to receive your order, return it
to us in its packaging and once we receive it we can then arrange a refund.
We hope that you will be happy with the item/s you purchase
from us however we appreciate that you may change your mind and wish to return
your item/s and ask for a refund. Please let us know within 14 days after
you’ve received your purchase by emailing hello@llantarnamgrange.com or by calling 01633 483321 where we will ask that you provide the details of
your purchase.
If you have received your product and within 14 days change
your mind, contact us and return in its original packaging. We are unable to
cover the return postage in this instance.
If your item is damaged upon delivery and you would like to
return, again please contact us. We will cover the return postage if the item
is faulty/damaged.
If your purchase has been damaged whilst in your care you
are welcome to inform us. We may not be able to replace the item or offer a
refund but we may be able to advice on how to repair it.
Payments
All product prices are in pound sterling.
Payments will be taken via PayPal and orders will only be
processed once confirmation of payment has been received.
In the rare event of purchasing an item online, whilst being
bought physically from our craft shop you will be notified and fully refunded
via PayPal.
Packaging
Some items will already have their own gift boxes or bags as
provided by the artist however there will be some that won’t have their own
packaging, in this instance we will use our own.
All of our packaging including cardboard boxes, bubble wrap,
tissue paper and chips is and will be reused to save on waste.
All stock available will be handled carefully and packaged
to ensure there are no breakages unless otherwise specified on the online shop.
Any breakages broken in transit will be covered by the insurance. Please
contact us and send images of the breakage to hello@llantarnamgrange.com
Shipping
Shipping will only be available to UK and Ireland addresses.
For all other international queries please email hello@llantarnamgrange.com
All orders will be posted and insured by Special Delivery from
Royal Mail. To make certain that ceramics are also insured we may send via
another courier such as DHL.
In the event of using a courier we may have to ask for a
phone number as this is a requirement when arranging delivery.
Please ensure that all your delivery details are correct as
we will not be held responsible if the address is wrong.
Shipping will be processed within the next 7 days following
your order. If you would like to receive your order by a specific date please
email hello@llantarnamgrange.com or call 01633
483321.
Privacy Policy
All ordering details such as name, addresses, phone numbers
and payment details will be kept secure. This information will only be used
Llantarnam Grange Arts Centre to process your order/s and enquiries. This will
not be passed on or used for any other purpose.
Disclaimer
Whilst we endeavour to process your order and any enquiries
as efficiently as possible please be mindful that we are a small team, with
some who work part-time, based in one location. We want to provide you with as
smooth of an online shopping experience can be, so that you may return or visit
our building in the future.
By purchasing items online and in our craft shop at Llantarnam Grange Arts Centre you are supporting a charity organisation. You are also supporting artists and other small organisations by helping them continue their practice. The price of the postage helps us cover the cost for packaging and shipping.
CYMRAEG
Telerau
Bydd unrhyw achebion a dderbynnir ar ol 22 Rhagfyr 2020 yn cael eu postio o 5 Ionawr 2021 ymlaen
Drwy osod eich
archeb rydych yn derbyn ein holl delerau ac amodau fel y'u nodir isod.
Eitemau Stoc
Mae'r stoc sydd
ar gael ar-lein ar gael yn ein siop hefyd. Mewn digwyddiad prin pan fydd eitem
yn cael ei phrynu ar-lein, ac yn cael ei phrynu'n bersonol yn ein siop grefftau
ar yr un pryd, byddwch yn cael gwybod ac yn derbyn ad-daliad llawn.
Os bydd yr eitem/au a archeboch yn mynd allan o stoc neu os byddwn yn nodi
anghysondeb ym mhris neu ddisgrifiad yr eitem, ni fyddwn yn gallu prosesu eich
archeb. Byddwch yn cael gwybod ac yn derbyn ad-daliad os na ellir trefnu opsiwn
arall, fel dewis yr un eitem gydag amrywiad.
Bydd yr holl stoc
sydd ar gael yn cael ei drin a'i bacio’n ofalus i sicrhau nad oes unrhyw
doriadau, oni bai y nodir fel arall yn y siop ar-lein. Bydd yr yswiriant yn
talu am unrhyw doriadau sy'n digwydd yn ystod cludo.
Byddwn yn ceisio
sicrhau bod disgrifiadau'r holl nwyddau yn gywir, yn cynnwys unrhyw amrywiadau.
Mae rhai eitemau’n
unigryw ac mae'n bosibl na fydd modd eu harchebu mwy nag unwaith neu eto yn y
dyfodol. Rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch eitem neu
eitemau rydych wedi eu gweld gynt.
Archebu,
Dychweliadau ac Ad-daliadau
Pan fyddwch wedi
rhoi archeb, byddwn yn rhoi gwybod i chi ein bod wedi derbyn yr archeb ac yn
gofyn i chi wirio bod yr holl fanylion yn gywir. Byddwn yn rhoi gwybod i chi
drwy e-bost pan fydd eich archeb yn barod i'w phostio, bydd hyn o fewn 7
diwrnod o dderbyn eich archeb oni bai y nodir fel arall.
I ganslo archeb,
p'un a ydych wedi ei derbyn neu beidio, cysylltwch ag hello@llantarnamgrange.com neu ffoniwch 01633 483321. Os nad yw'r
archeb wedi cael ei hanfon eto gallwn drefnu ad-daliad ar unwaith. Os yw'r
archeb wedi cael ei hanfon yn y cyfamser, arhoswch nes byddwch yn derbyn eich
archeb, dychwelwch hi yn ei phecyn, ac unwaith y byddwn yn ei derbyn gallwn
drefnu ad-daliad.
Gobeithio y byddwch yn fodlon ar yr eitem/au a brynwch gennym, fodd bynnag
rydym yn deall y gallech newid eich meddwl a'ch bod eisiau dychwelyd eich
eitem/au a gofyn am ad-daliad. Rhowch wybod i ni o fewn 14 diwrnod o dderbyn
eich pryniant drwy e-bostio hello@llantarnamgrange.com neu drwy ffonio 01633 483321. Byddwn yn gofyn i
chi roi manylion eich pryniant.
Os ydych wedi
derbyn eich eitem ac yn newid eich meddwl o fewn 14 diwrnod, cysylltwch â ni
a'i dychwelyd yn y pecyn gwreiddiol. Ni allwn dalu am y cludiant dychwelyd yn y
sefyllfa hon.
Os yw eich eitem wedi'i difrodi wrth gael ei chludo ac rydych eisiau ei
dychwelyd, cysylltwch â ni. Byddwn yn talu am y cludiant dychwelyd os yw'r
eitem yn ddiffygiol/wedi'i difrodi.
Os yw eich eitem
wedi cael ei difrodi tra'i bod yn eich gofal chi, mae croeso i chi rhoi gwybod
i ni. Er na fyddwn yn gallu newid yr eitem neu gynnig ad-daliad, efallai gallwn
roi cyngor i chi ynghylch sut i'w thrwsio.
Taliadau
Mae pris yr holl nwyddau mewn punnoedd sterling.
Cymerir taliadau drwy PayPal ac ni fydd archebion yn cael eu prosesu nes i
ni dderbyn cadarnhad bod y tâl wedi'i dderbyn.
Mewn digwyddiad
prin pan fydd eitem yn cael ei phrynu ar-lein, ac yn cael ei phrynu'n bersonol
yn ein siop grefftau ar yr un pryd, byddwch yn cael gwybod ac yn derbyn
ad-daliad llawn drwy PayPal.
Deunydd Pacio
Bydd rhai eitemau
yn dod mewn blychau neu fagiau rhodd a ddarparwyd gan yr artist. Fodd bynnag
bydd rhai eraill yn dod heb ddeunydd pacio – yn yr achos hwn byddwn yn
defnyddio ein deunydd pacio ninnau.
Mae ein holl
ddeunydd pacio, yn cynnwys bocsys cardbord, deunydd lapio swigod, papur sidan a
sglodion yn cael eu hailddefnyddio bob amser i arbed gwastraff.
Bydd yr holl stoc sydd ar gael yn cael ei drin a'i bacio’n ofalus i sicrhau
nad oes unrhyw doriadau oni bai y nodir fel arall yn y siop ar-lein. Bydd yr
yswiriant yn talu am unrhyw doriadau sy'n digwydd yn ystod cludo. Cysylltwch â
ni gan anfon lluniau o'r eitem wedi torri at hello@llantarnamgrange.com
Cludiant
Bydd cludiant ar gael i gyfeiriadau yn y DU ac Iwerddon yn unig. Ar gyfer
pob ymholiad rhyngwladol, anfonwch e-bost at hello@llantarnamgrange.com
Bydd pob archeb
yn cael ei hanfon a'i hyswirio drwy Ddanfoniad Arbennig y Post Brenhinol. I
sicrhau bod eitemau ceramig wedi'u hyswirio hefyd, efallai byddwn yn eu hanfon
drwy gludwr fel DHL.
Os byddwn yn
defnyddio cludwr, efallai byddwn yn gofyn am rif ffôn gan fod hyn yn ofynnol
wrth drefnu danfoniad.
Gwnewch yn siŵr bod eich holl fanylion danfon yn gywir gan na fyddwn yn
gyfrifol os yw'r cyfeiriad yn anghywir.
Bydd cludiant yn cael ei brosesu o fewn 7 diwrnod ar ôl derbyn eich archeb.
Os hoffech dderbyn eich archeb erbyn dyddiad penodol, anfonwch e-bost at hello@llantarnamgrange.com neu ffoniwch 01633 483321.
Polisi
Preifatrwydd
Bydd yr holl
fanylion archebu fel enw, cyfeiriadau, rhifau ffôn a manylion talu yn cael eu
cadw'n ddiogel. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio gan Ganolfan
Gelfyddydau Llantarnam Grange i brosesu eich archeb/ion a'ch ymholiadau yn
unig. Ni chaiff ei throsglwyddo neu ei defnyddio at unrhyw bwrpas arall.
Ymwadiad
Er ein bod yn
gwneud pob ymdrech i brosesu eich archeb a’ch ymholiadau mor effeithlon â
phosibl, dylech ystyried ein bod yn dîm bychan, yn cynnwys rhai sy'n gweithio'n
rhan-amser, a phawb mewn un lleoliad. Rydym eisiau darparu'r profiad siopa
ar-lein hwylusaf i chi, fel y byddwch yn dod nôl neu'n ymweld â'n hadeilad yn y
dyfodol.
Trwy brynu
eitemau ar-lein ac yn ein siop grefftau yng Nghanolfan Gelfyddydau Llantarnam
Grange rydych yn cefnogi sefydliad elusennol. Rydych hefyd yn cefnogi
artistiaid a sefydliadau bach eraill drwy eu helpu i barhau â'u harfer. Mae'r
taliadau post yn ein helpu i dalu am gost y deunydd pacio a chludiant.